Gofal Cymdeithasol Cymru: ymchwil defnyddiwr i ddeall arloesi ym maes gofal cymdeithasol

arrow-down

Ymunwch â ni i helpu Gofal Cymdeithasol Cymru i ysgogi newidiadau ym maes gofal cymdeithasol. Oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu syniadau ar gyfer helpu pobl ym maes gofal cymdeithasol yn well i wneud pethau’n wahanol ac ysgogi newidiadau?

Os felly, cliciwch yma i gymryd rhan yn ein prosiect ymchwil defnyddwyr rhwng 21 Chwefror a 21 Mawrth 2022.


Mae pobl yng Nghymru sydd ag egni a syniadau yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu gofal cymdeithasol ystyrlon. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen arloesi i helpu i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig. Y cwestiwn yw, sut y gallwn ddeall yn well yr hyn sydd eisoes yn digwydd ledled y wlad a sut y gallwn gefnogi arloeswyr yn well i dyfu, ehangu a lledaenu ffyrdd newydd o wneud pethau a fydd yn helpu pobl i fyw eu bywyd gorau posib heb beryglu cenedlaethau’r dyfodol?

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio gyda thîm Canlyniadau Pŵer Pobl, Nesta ac Y Lab o Brifysgol Caerdydd i ddarganfod beth y gallant ei wneud i gefnogi mabwysiadu a lledaenu arloesedd sy’n gwella bywydau pobl. Dydyn ni ddim yn canolbwyntio ar ddiffiniadau o arloesi, yn hytrach rydych yn siarad â phobl sy’n gweld eu hunain fel pobl sy’n gwneud pethau’n wahanol, neu’n gwneud yr hyn rydym eisoes yn ei wneud yn wahanol.

Efallai eich bod chi’n llunio polisïau, yn gweithio ar y rheng flaen yn darparu gwasanaethau neu’n rhywun sydd â phrofiad bywyd – rydym eisiau clywed gennych. Beth sydd ei angen yn eich barn chi i helpu i newid pethau er gwell? Sut byddech chi’n newid y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn gweithio i wneud mwy o’r hyn sy’n bwysig? Beth sy’n eich helpu neu’n eich rhwystro wrth geisio gwneud pethau gwahanol i gael canlyniad gwell?

Ymunwch â ni am ychydig o ymchwil defnyddiwr

Ydych chi’n ystyried eich hun fel rhywun sy’n arloesi, neu’n dilyn llwybr neu ffordd wahanol o weithio? Ydych chi’n dyheu am wasanaethau gwahanol? A ydych chi’n teimlo’n rhwystredig ac yn teimlo fel eich bod yn cael eich dal yn ôl gan system neu set o amgylchiadau anymatebol? 

Rydym yn ymgymryd â dull cydweithredol ar gyfer ymchwil defnyddiwr i deall beth sydd ei angen ar bobl sy’n derbyn gofal cymdeithasol, a’r hyn maen nhw eisiau ac yn ei werthfawrogi. Bydd y wybodaeth y byddwn yn ei gasglu a’r hyn y byddwn yn ei ddysgu yn helpu i lywio cynlluniau Gofal Cymdeithasol Cymru yn y dyfodol. Rydym am ymgysylltu â 40-50 o bobl sydd â gwahanol rolau a pherthnasoedd â gofal cymdeithasol ac arloesi er mwyn cael dealltwriaeth ehangach o’r pwnc.  Ein huchelgais yw datblygu camau gweithredu diriaethol i helpu i roi rhai o’ch awgrymiadau ar waith.

Ond nid ni, fel tîm ymchwil defnyddiwr sydd â’r gair olaf. Pobl mewn gofal cymdeithasol sydd â’r gair olaf. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni, byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn holiadur ymchwil byr. Bydd yr holiadur yn ein galluogi i ehangu ein chyrhaeddiad a chlywed gan fwy o bobl ym maes gofal cymdeithasol ac i roi llais i fwy o bobl nag y byddem yn gallu trwy ymgysylltu dyfnach. Yn dibynnu ar argaeledd, bydd rhai pobl yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn grŵp ffocws neu gyfweliad i’n helpu i brofi a sbarduno syniadau a mewnwelediadau addawol ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru. Yna byddwn yn dod â phobl mewn gofal cymdeithasol yn ôl at ei gilydd i flaenoriaethu, craffu a chanolbwyntio ar yr hyn y maent yn meddwl y dylai Gofal Cymdeithasol Cymru ei wneud nesaf. Dyma fydd yn cael ei gynnwys yn ein hadroddiad terfynol i Ofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’n amlwg nad yw’r ffordd rydyn ni wedi bod yn gwneud pethau yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae galw cynyddol, cyflenwad cyfyngedig, staff wedi’u gorweithio, systemau anhyblyg caeth, diffyg amser neu adnoddau i feddwl am wneud pethau gwahanol yn rhai o’r ffactorau sy’n atal newid. Gall maint yr her a’r amrywiaeth o sefydliadau, gwasanaethau a phobl sy’n ymwneud â hyn fod yn ormod hefyd.

Ond rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth, felly beth yw’r un peth rydych chi’n meddwl fydd yn dechrau gwneud gwahaniaeth? Ac a wnewch chi sbario peth amser i weithio gyda ni i ddarganfod sut mae Cymru yn arloesi a beth sydd ei angen ar ofal cymdeithasol i symud i ddyfodol gwell?

© 2019 Nesta Nesta is a registered charity in England and Wales 1144091 and Scotland SC042833. Our main address is 58 Victoria Embankment, London, EC4Y 0DS. You can reach us by phone on 020 7438 2500 or drop us a line at [email protected].
All our work is licensed under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 International License, unless it says otherwise. We hope you find it useful.