Sgwrs gyda’r artist a’r ymarferwr artist a’r ymarferydd gwybodus am drawma, Jain Boon o’r rhaglen HARP (Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl).
Un o’r heriau mwyaf yn ein byd modern, byd-eang yw y gallwn deimlo’n ynysig neu wedi ein datgysylltu’n hawdd oddi wrth ein gilydd. Gall oes fynd heibio heb gael eich cyffwrdd gan brofiadau neu broblemau pobl eraill. Ond mae bodau dynol yn greaduriaid cymdeithasol, rydym yn ysu am gysylltiad ac rydym yn chwilio am ffyrdd i gadw mewn cysylltiad bob amser – drwy sgriniau, ar draws ffiniau ac ar hyd pandemig byd-eang. Rydym yn arloesi ac rydym yn chwilio am brofiadau sy’n gwneud i ni deimlo rhywbeth ac sy’n trawsnewid y ffordd rydym yn cysylltu â’r byd cymhleth o’n hamgylch.
Mae’r tîm Canlyniadau wedi’u Pweru gan Bobl (PPR) yn credu y gall creadigrwydd ein helpu i wneud synnwyr o gymhlethdod. Naill ai fel unigolion yn gwneud synnwyr o’n lle yn y byd neu ddatrys problemau mewn systemau cymhleth, gall creadigrwydd fod yn gatalydd ar gyfer trawsnewid. Gall yr amodau sydd eu hangen i greu newid amrywio ond mae creadigrwydd yn ddull cyson sy’n disgleirio golau mewn lleoedd sydd wedi’u gadael yn y tywyllwch am gyfnodau rhy hir o lawer. Drwy ddefnyddio ein creadigrwydd unigol ein hunain, gallwn greu teimladau sy’n ein hysgogi i feddwl a’n symud i weithredu i drawsnewid y byd o’n hamgylch.
Meddyliwch am y tro diwethaf i ddarn o gelf greu argraff arnoch. A oedd yn gân a oedd yn taro tant, drama a oedd yn gwthio eich ffiniau, neu nofel a wnaeth gynhyrfu eich enaid? Mae celf yn ehangu ein meddyliau, yn ysgogi teimladau ac yn tanio ein dychymyg. Mae’n erfyn arnom i gredu mewn rhywbeth arall, amser arall, lle arall, cyflwr arall o fod. Pan gawn ein cyffroi gan gelf, efallai y bydd ein traed wedi’u plannu’n gadarn mewn un lle, ond mae ein dychymyg yn cael ei dywys i rywle arall. Mae’r pŵer trawsnewidiol hwn yn un pwerus ac mae’n ein cysylltu; i ni ein hunain ac i eraill.
Am ddwy flynedd, mae’r tîm PPR wedi bod yn bartner yn y rhaglen HARP – Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil a Phobl. Mae HARP yn bartneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, ac ‘Y Lab’ Nesta a Phrifysgol Caerdydd i archwilio sut y gall y celfyddydau wella iechyd a llesiant pobl a chefnogi ein systemau iechyd a gofal. Mae PPR wedi cefnogi’r rhaglen i ddatblygu gwaith cydweithredol traws-sector rhwng artistiaid angerddol ac unigolion llawn cymhelliant sy’n gweithio ar reng flaen system iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth.
Mae’r artistiaid yr ydym yn gweithio gyda hwy yn aml yn canfod eu hunain yn y bwlch rhwng eu harfer creadigol, y system iechyd a gofal a’r tirlun arloesi. Mae Jain Boon yn un o’r artistiaid hyn. Roedd Jain yn artist ar dîm Egin HARP. Bu’r tîm yn profi dulliau newydd o ddefnyddio creadigrwydd i leihau stigma ac arwahanrwydd i oroeswyr trais rhywiol a cham-drin rhywiol. Mae gyrfa 30 mlynedd Jain wedi darparu’r llwybrau i bobl o bob math o leoedd a chefndiroedd i gael eu trawsnewid drwy brofi celf. Mae wedi gweithio ar rai o faterion mwyaf heriol y dydd – cam-drin domestig, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a hawliau menywod – i gynorthwyo pobl i ryddhau eu gallu i feddwl yn feirniadol a chreadigol.
Cefais gyfle i eistedd gyda Jain i drafod pŵer trawsnewidiol celf a sut y gall creadigrwydd ein helpu i wneud synnwyr o fyd cymhleth iawn. Fe wnaeth Polly Redfern ymuno â ni, dylunydd, a lwyddodd i gofnodi ein sgwrs drwy ddarluniadau. Dyma ein sgwrs.
Beth oedd eich taith bersonol chi i ddod yn artist gwybodus am drawma?
Pan oeddwn yn gadael y coleg drama, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau creu newid yn y byd ac ni fyddai bod yn actor yn ddigon, felly canfyddais fy hun ym myd theatr addysg, theatr gymunedol, a ddatblygodd i godi materion a chwestiynau. Roedd hyn yn fy ngalluogi i drin a thrafod pethau oedd yn bwysig i mi, fel gwleidyddiaeth menywod a chymorth lesbiaid a hoyw i lowyr yng Nghymru. Ac roedd y darnau o waith yn edrych ar drawma, er nad oeddwn bob amser yn ymwybodol o hynny ar y pryd. Ond y syniad bob amser oedd gwahodd pobl i adlewyrchu ar brofiad bywyd pobl eraill ac roeddwn eisiau sicrhau bod y rhai heb lais yn cael eu clywed.
Rwyf ar fy nhaith fy hun. Ar ôl cymaint o flynyddoedd, rwyf wedi dechrau deall beth yw fy nhrawma i fy hun. Rwy’n hyfforddi yn awr yn broffesiynol fel ymarferydd profiadau corfforol sy’n chwilio am ffyrdd diogel o ryddhau’r egni trawmatig hwnnw sy’n cael ei gaethiwo yn y corff yn dilyn profiad trawmatig.
Fel artist, sut wnaethoch chi ganfod eich lle eich hun fel ymarferydd gwybodus am drawma yn y system iechyd a gofal cymdeithasol?
Am flynyddoedd lawer roeddwn yn cnocio ar ddrws a oedd ond yn agored i glinigwyr yn ôl pob tebyg. Roedd archwilio trawma a chael mynediad at hyfforddiant yn ymddangos fel pethau y gallai math penodol o berson ei wneud: gweithwyr proffesiynol, therapyddion neu glinigwyr. Fel artist, nid yw’r drws hwn bob amser ar agor i chi. A phan fydd rhywun yn agor y drws i chi, gall hynny greu newid. Digwyddodd hyn am y tro cyntaf i mi pan dderbyniais wahoddiad gan Hwb Cymorth ACE i weithio gyda hwy. Roeddent yn awyddus i gysylltu â phobl a oedd wedi datblygu gwybodaeth a sgiliau ar adfyd a thrawma.
Beth mae artist yn gallu ei wneud na all eraill yn y system iechyd a gofal cymdeithasol? Pam fod angen creadigrwydd ar y system?
Mae creadigrwydd yn newid y tirlun. Mae’n ein cyffwrdd mewn ffordd wahanol ac yn cysylltu â ni ar lefel emosiynol. Nid yw’n aros ar yr arwyneb. Mae’n galluogi i ni feddwl yn ddyfnach. Edrych ar eiliadau dylanwadol yn ein bywydau, y gallwn eu rhannu gydag eraill. Felly gallai ein creadigrwydd unigol ymddangos yn gymharol fach weithiau, ond mae’n ehangu pan fyddwn yn ei rannu ag eraill. Mae’n ein cysylltu ag enaid y byd.
Yr hyn yr oeddwn yn hoff iawn ohono am HARP yw fy mod yn teimlo cysylltiad gydag artist arall, gyda thîm iechyd a gyda grŵp o bobl. Ac rydym wedi cysylltu gyda diben cyffredinol o fod eisiau gwneud gwahaniaeth.
Fel ymarferydd, beth ydych chi’n ei weld neu’n ei glywed pan fydd pobl yn dechrau cysylltu ag enaid y byd?
Rwy’n gweld pobl yn cysylltu â’u cryfderau. Ehangiad yn y corff. Rydym yn teimlo’n hyderus, rydym yn teimlo llawenydd, rydym yn teimlo pleser, rydym yn teimlo ymdeimlad o weithredu…yr holl bethau hynny am ein bod wedi cysylltu â bod dynol arall. Ac yn y foment honno gallwn gymryd anadl gyda’n gilydd. Wrth geisio brwydro yn erbyn stigma, unigrwydd ac arwahanrwydd, sydd wedi gwaethygu gan y pandemig, mae angen y mannau creadigol hynny arnom fwyfwy er mwyn gallu cysylltu.
Yn y tîm Canlyniadau wedi’u Pweru gan Bobl, rydym yn aml yn meddwl am newid ar ddwy lefel: trawsnewid systemau yn erbyn trawsnewidiadau unigol y mae pobl yn eu profi. Ydych chi’n gweld cysylltiad rhwng yr unigolyn a’r system?
Mae sicrhau bod y system yn ‘iach’ yn berthnasol i ni i gyd. Yr hyn yr ydych ei eisiau yw pobl ar ‘ben uchaf’ y system honno’n cydnabod pŵer a chryfder y bobl ynddi i greu newid. Gall fod yn deimlad brawychus cnocio ar ddrws a dweud ‘dyma sydd ei angen arnaf’ ond pan fyddwch yn gallu gwneud hyn gyda’ch gilydd, mae’n teimlo’n nerthol. Ar raddfa fawr rydym yn trafod creu eiliadau pan fydd pobl yn gallu dweud beth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu hiechyd a’u llesiant eu hunain. Wrth weithio ochr yn ochr â phobl rydych yn sylweddoli bod gan bobl eu harbenigedd eu hunain yn y profiad byw hwnnw.
Hoffwn pe byddai sefydliadau iechyd yn sylweddoli’r pŵer sydd ganddynt o fewn eu systemau drwy’r bobl. A, phan fyddwch wedi symud ymlaen a’ch bod yn dweud wrth y bobl sy’n cael mynediad at eich gwasanaethau “rydym eisiau bod yn rhan o’r newid” mae rhywbeth wedi newid ac ni allwch gamu yn ôl o hynny. Rydych wedi’ch symud.
Mae angen i bethau newid mewn systemau…ond mae’n dechrau gyda’r ffordd rydym yn gweld ein gilydd, sut yr ydym yn ymateb i’n gilydd, sut yr ydym yn ystyried ein gilydd. Mae’r storïau rydym yn eu rhannu gyda’n gilydd yn bwysig ac maent yn ein cysylltu a gallant greu newid.
Pa wahaniaeth ydych chi’n ei gredu y gellir ei wneud o roi mwy o sylw i bŵer trawsnewidiad unigol a’r effaith y gall hyn ei chael ar y system?
Yng ngwaith Egin HARP gyda New Pathways, rydym yn gwahodd pobl i ymateb yn gyflym iawn i rywbeth sydd wedi creu argraff ddofn arnynt. Mae’n rhywbeth mae eu corff yn ei wybod hyd yn oed os nad ydynt erioed wedi mynegi hynny o’r blaen. A wow, fel artist, rydych wedi datgloi rhywbeth yn rhywun arall…ac mae hynny’n teimlo’n bwerus iawn. Mae artistiaid yn gwahodd yr unigolyn i fod yn rhan o’r system drwy greu pont ddychmygol y gall rhywun ei chroesi a dod yn rhan o rywbeth ar yr ochr arall.
Mae trawma yn amlygu ei hun yn ein perthnasoedd, yn ein gofod, yn y byd. Mae trawma yn ein gwahanu oddi wrth ein gilydd….byddwn wrth fy modd yn cael pobl sy’n llunio polisïau yn yr ystafell gyda chi er mwyn iddynt allu gweld beth mae creadigrwydd a’r celfyddydau yn gallu ei wneud. Mae celf a chreadigrwydd yn bŵer magnetig sy’n dod â phobl at ei gilydd ac mae’r gofod yn teimlo’n wahanol iawn yn y pen draw ac yn creu argraff emosiynol arnom. Ac am eiliad, rydym yn cael ein trosglwyddo i rywle arall sy’n gwneud i ni allu teimlo.
Gall celf fod yn adeiladol neu’n anadeiladol. Wrth feddwl am y system, beth ydych chi’n ei gredu y gallai fod angen ei rwygo ei lawr neu ei anadeiladu cyn y gellir creu rhywbeth newydd?
Mae artistiaid a sefydliadau iechyd yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Fel artistiaid, gwyddom y gallwn wahodd pobl i gymryd risgiau diogel, wedi’u cefnogi ac mae angen i ni greu gofod ar gyfer tawelwch. Gall artistiaid gynnal y gofod hwnnw. Weithiau mae angen amser ar bobl i feddwl a’i deimlo yn eu cyrff. Mae artistiaid yn eistedd mewn gofod anghyfforddus yn aml. Mae hyblygrwydd yn perthyn i’r celfyddydau. Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y gallai iechyd ei ddysgu o gydweithio mwy gyda’r celfyddydau.
Fel artist, ydych chi’n cydnabod lle mae eich pŵer chi eich hun yn bodoli yn y system iechyd a gofal?
Beth bynnag ydyw, nid yw ar fy mhen fy hun. Rwy’n teimlo pŵer mewnol ond mae hynny’n bodoli o fod gydag eraill, cysylltu â phobl eraill a pheidio teimlo ar fy mhen fy hun. Bum ar daith feicio yn nyffryn yr afon Nîl a wnaeth fy ngwthio i’r eithaf. Ac ie, weithiau mae angen gwneud pethau ar eich pen eich hun i deimlo’r ymdeimlad hwnnw o gyflawniad a phŵer ar eich pen eich hun. Ond pan fydd yr holl ffyrdd yn dod at ei gilydd, dyna pryd rwyf yn sylweddoli fy mod ar y llwybr cywir. Y cysylltedd sy’n gwneud pethau’n bosibl.
Mae HARP wedi bod yn broses o ddeall rôl pawb yn y system…boed hynny’n nawdd, caniatâd neu ddata. Y ffordd y mae artistiaid yn herio’n barhaus, dyna oedd HARP yn ei wneud i mi. I deimlo profiadau pobl go iawn a chamu i her a bod yn rhan ohono…
A oes gennych unrhyw gyngor i artistiaid eraill neu ymarferwyr iechyd sy’n cydweithio neu’n gweithio mewn partneriaeth am y tro cyntaf?
Pan fyddwch yn dechrau rhywbeth newydd, mae yna anesmwythder. Gadewch i ni gymryd un cam ar y tro a’i wneud gyda gobaith ac ymdeimlad o berthyn a theimlad y gallwn wneud y newid…y teimlad y bydd rhywun yn gwrando.